Lleoliad y cyfarfod:
Y Siambr - Y Senedd
Dyddiad y
cyfarfod:
Dydd Mercher,
24 Ebrill 2024
Amser y
cyfarfod: 13.30
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/13875
------
Cynhaliwyd y cyfarfod hwn ar ffurf hybrid, gyda rhai Aelodau yn Siambr y Senedd ac eraill yn ymuno drwy gyswllt fideo.
Am 13.30, datganodd y Llywydd y gall Mark Isherwood ofyn am gytundeb y Senedd ar ei gynnig ar gyfer Bil Iaith Arwyddion Prydain (BSL) (Cymru), yn dilyn canlyniad y balot ar gyfer Bil Aelod.
Dechreuodd yr eitem am 13.30
Gofynnwyd yr 8 cwestiwn cyntaf. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet ar ôl cwestiwn 2.
Yn unol â Rheol Sefydlog 12.18, am 14.17 cafodd y cyfarfod ei atal dros dro gan y Llywydd am 3 munud.
Dechreuodd yr eitem am 14.20
Gofynnwyd y 9 cwestiwn cyntaf. Cafodd cwestiynau 3 a 4 eu grwpio i’w hateb gyda’i gilydd. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet ar ôl cwestiwn 2.
Dechreuodd yr eitem am 15.10
Gofynnwyd y cwestiwn.
Dechreuodd yr eitem am 15.12
Atebwyd gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol
Mabon ap Gwynfor (Dwyfor Meirionnydd): A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet ddatganiad ar ganlyniad terfynol adolygiad y Gwasanaeth Casglu a Throsglwyddo Meddygol Brys i ddarparu gwasanaethau ambiwlans awyr yng Nghymru yn y dyfodol?
Dechreuodd yr eitem am 15.34
Gwnaeth Sioned Williams ddatganiad am - Mis Ymwybyddiaeth o Adenomyosis (Ebrill).
Gwnaeth Carolyn Thomas ddatganiad am - Diwrnod y Ddaear (22 Ebrill).
Gwnaeth Jane Dodds ddatganiad am - Wythnos Genedlaethol Ymwybyddiaeth Stelcio (22-26 Ebrill)
Dechreuodd yr eitem am 15.40
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.
NDM8504 Janet Finch-Saunders (Aberconwy)
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi cynnig ar gyfer Bil a fyddai’n gwneud darpariaethau ar gyfer targedau i atgyfnerthu diogeledd bwyd yng Nghymru.
2. Yn nodi mai diben y Bil fyddai creu dyletswydd ar Lywodraeth Cymru i bennu targedau i wella diogeledd bwyd yng Nghymru.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
24 |
14 |
11 |
49 |
Derbyniwyd y cynnig.
Dechreuodd yr eitem am 16.11
NDM8544 Llyr Gruffydd (Gogledd Cymru)
Cynnig bod y Senedd:
Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith, ‘Adroddiad ar berfformiad Dŵr Cymru’, a osodwyd ar 8 Chwefror 2024.
Noder: Gosodwyd ymateb Llywodraeth Cymru i'r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 17 Ebrill 2024. Ymatebodd Ofwat (Saesneg yn unig) a Cyfoeth Naturiol Cymru ar 20 Mawrth 2024 ac ymatebodd Dŵr Cymru Welsh Water ar 28 Mawrth 2024.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Dechreuodd yr eitem am 16.55
Atebwyd gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg
Adam Price (Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr): A wnaiff y Llywodraeth ddatgan pa wybodaeth y gall ei rhannu parthed y digwyddiad difrifol yn Ysgol Dyffryn Aman heddiw?
Dechreuodd yr eitem am 17.10
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:
NDM8545 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi'r adroddiad Major Challenges for Education in Wales a gyhoeddwyd gan y Sefydliad Astudiaethau Cyllid a amlygodd:
a) bod sgoriau PISA wedi gostwng mwy yng Nghymru nag yn y mwyafrif o wledydd eraill yn 2022;
b) mai deilliannau addysgol ôl-16 yng Nghymru yw'r gwaethaf yn y DU;
c) bod disgyblion yng Nghymru dim ond yn perfformio cystal â phlant difreintiedig yn Lloegr;
d) bod yr esboniad am berfformiad addysgol is yng Nghymru yn debygol o adlewyrchu polisi a dull gweithredu Llywodraeth Cymru; ac
e) bod y cwricwlwm newydd i Gymru a diwygiadau Llywodraeth Cymru yn peri risg o ehangu anghydraddoldebau, cynyddu llwyth gwaith athrawon, a chyfyngu ar gyfleoedd addysg yn y dyfodol.
2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
a) comisiynu adolygiad annibynnol i'r diwygiadau addysg presennol sy'n cael eu cyflwyno;
b) blaenoriaethu addysg plant drwy gael 5,000 yn fwy o athrawon yn ôl i ystafelloedd dosbarth;
c) sicrhau bod y rhai sydd ag anghenion dysgu ychwanegol yn cael y cymorth cywir yn gynt; a
d) cyflwyno academïau ac ysgolion rhydd.
Adroddiad Major Challenges for Education in Wales a gyhoeddwyd gan y Sefydliad Astudiaethau Cyllid (Saesneg yn unig)
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
14 |
0 |
35 |
49 |
Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Dileu popeth a rhoi yn ei le:
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn croesawu ymrwymiad y Prif Weinidog i welliant parhaus mewn cyrhaeddiad addysgol fel prif flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru.
2. Yn cefnogi gwaith Llywodraeth Cymru i gyflwyno’r Cwricwlwm i Gymru a gweithredu Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol (Cymru).
3. Yn mynegi diolch i'r gweithlu addysg am eu gwaith caled parhaus drwy gydol y flwyddyn.
4. Yn nodi, er gwaethaf camreolaeth Llywodraeth y DU o'n cyllid cyhoeddus, bod Llywodraeth Cymru wedi diogelu’r cyllid sydd ar gael i ysgolion trwy'r setliad llywodraeth leol a chyllid grant.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
26 |
0 |
23 |
49 |
Derbyniwyd gwelliant 1.
Gan fod gwelliant 1 wedi ei dderbyn, cafodd gwelliant 2 ei ddad-ddethol.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig fel y’i diwygiwyd:
NDM8545 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn croesawu ymrwymiad y Prif Weinidog i welliant parhaus mewn cyrhaeddiad addysgol fel prif flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru.
2. Yn cefnogi gwaith Llywodraeth Cymru i gyflwyno’r Cwricwlwm i Gymru a gweithredu Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol (Cymru).
3. Yn mynegi diolch i'r gweithlu addysg am eu gwaith caled parhaus drwy gydol y flwyddyn.
4. Yn nodi, er gwaethaf camreolaeth Llywodraeth y DU o'n cyllid cyhoeddus, bod Llywodraeth Cymru wedi diogelu’r cyllid sydd ar gael i ysgolion trwy'r setliad llywodraeth leol a chyllid grant.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
26 |
0 |
23 |
49 |
Derbyniwyd y cynnig fel y’i diwygiwyd.
Dechreuodd yr eitem am 17.47
Dechreuodd yr eitem am 17.50
NDM8540 Peter Fox (Mynwy)
Gofal sylfaenol a'r agenda ataliol.
Daeth y cyfarfod i ben am 18.10
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Senedd am 13.30, Dydd Mawrth, 30 Ebrill 2024